P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sheila Jones ac ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf yn ystod Mai 2018, ar ôl casglu 997 o lofnodion ar-lein a 428 o lofnodion ar bapur, cyfanswm o 1,425 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw am i athrawon cyflenwi gael eu talu'n deg a chael mynediad llawn at gyfleoedd hyfforddi a thelerau ac amodau eraill. Dylai fod athro cymwys ym mhob ystafell ddosbarth a dylai arian trethdalwyr fod yn cael ei wario'n uniongyrchol ar addysg, heb fynd i bocedi asiantaethau preifat.

 

​Mae athrawon cyflenwi'n cael cam ac mae athrawon yn gadael y proffesiwn oherwydd na allant fforddio bod yn athrawon cyflenwi.

Mae asiantaethau'n lleihau cyflog athrawon cyflenwi 40 i 60 y cant ac mae athrawon yn colli eu pensiynau. Mae'r sefyllfa'n enghraifft o ddefnyddio arian cyhoeddus i greu elw i'r sector preifat. Mae gwersi'n cael eu darparu gan staff anghymwys.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad